Galw ar help fusnesau a gwasanaethau Môn

 

Mae prosiect Mentro Gyda’n Gilydd Cymru yn galw ar help fusnesau a gwasanaethau ledled Môn i ddatblygu adnodd newydd i gefnogi trigolion yr ynys.

Mae Mentro Gyda’n Gilydd yn gyfres o fideos syml a chlir sy’n helpu pobl paratoi at ddychwelyd i’r gymuned wedi’r pandemig, wrth ddangos sut mae lleoliadau megis Siopau, Caffis, Meddygfeydd etc. wedi newid.

Mae cyfres o fideos eisoes wedi i’w creu ac ar gael i’w wylio ar YouTube, ond mae’r prosiect angen help mwy o fusnesau a gwasanaethau i ddarparu cynnwys ar gyfer creu fideos i’w lleoliad nhw. Ni fyddai angen i’r busnes/wasanaeth creu’r fideo eu hunain, dim ond tynnu 5 llun o’r prif newidiadau a’u danfon atom – neu ein gwahodd draw i dynnu lluniau ar eich rhan.

Bydd fideo syml wedyn y cael ei greu i fusnesau a gwasanaethau gallu rhannu gyda’u cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth.

Mae fideo gyda gwybodaeth bellach ar gael i’w wylio yma:

Neu, os hoffech gyfrannu neu ddysgu mwy – cysylltwch â Sioned Young yn Age Cymru Gwynedd a Môn ar sioned.young@acgm.co.uk neu 01286 808 735.

Oes gennych chi unrhyw sgiliau neu
weithgareddau yr hoffech chi eu rhannu?

Cysylltwch â ni gyda'ch syniadau
  Adborth

Partneriaid Prosiect

Hawlfraint © 2026, Cyngor Sir Ynys Môn
Gwefan gan Brandified

×