Tyddyn Môn
Elusen
Mae Tyddyn Môn yn elusen sydd wedi bod yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu ar Ynys Môn am dros 30 mlynedd. Ein cenhadaeth yw i darparu'r gefnogaeth, gofal ac arweiniad orau bosibl i'r bobl yr ydym yn eu cefnogi fel y gallant byw bywydau hapus, llawn ac annibynnol. info@tyddynmon.co.uk
01248 410580 Gwefan
ScoutsMôn
Mudiad Ieuenctid
Yn darparu gweithgareddau Sgowtio o safon i bobl ifanc ar Ynys Môn ers dros 110 o flynyddoedd.
01248305105 Gwefan Ebost
PIWS
Menter Gymunedol
Mae Môn wedi’i dewis gan PIWS, menter gymunedol, ar gyfer cynllun peilot sy’n anelu at osod Mynediad i Bawb wrth galon sector twristiaeth a hamdden yr ynys. Ewch draw i wefan PIWS i ddysgu mwy am y prosiect a sut i ddod yn Lysgenhadon Hygyrchedd Ynys Môn.
01248 719489 Gwefan
Môn CF
Cymorth Cyflogaeth
Mae Môn CF yn cynnig cymorth cyflogaeth: hyfforddiant am ddim, ysgrifennu CV, cymorth hefo ceisiadau am swydd, lleoliadau gwaith hefo tâl neu gallwn hyd yn oed eich helpu i sefydlu eich busnes eich hun. Yn ogystal, maent yn cynnig cymorth busnes a gallant gynorthwyo gyda recriwtio, lleoliadau wedi'u hariannu, arweiniad AD, hyfforddiant staff a llawer mwy. Mae Môn CF yn gweithredu ar ddraws Ynys Môn a Gwynedd ac ar hyn o bryd mae ganddyn nhw swyddfeydd yng Nghaergybi, Amlwch, Porthaethwy, Bangor a Chaernarfon.
01407 762004 Gwefan

Menter Môn
Mudiad Ddim er Elw
Mae Menter Môn yn gwmni dielw sy’n darparu atebion i’r heriau sy’n wynebu Cymru wledig. Rydym yn gweithio gyda busnesau, cymunedau ac unigolion i ddarparu prosiectau buddiol sy’n manteisio ar gryfderau ac yn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.
01248 725 700 Gwefan

Carers Wales
Gofal
Mae Carers Wales eisiau cymdeithas sy'n parchu, gwerthfawrogi a chefnogi gofalwyr. Ein bwriad yw gwneud bywyd yn well i ofalwyr.
029 2081 1370 Gwefan
Age Well Hwyliog Môn
Hwb Cymunedol
Clwb Ieuenctid i’r 50+. Rydym yn Elusen Gofrestredig wedi’i redeg gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr, gyda chanolfannau yn Amlwch a Llangefni.
01407 831 862 Gwefan
Age Cymru Gwynedd a Môn
Elusen
Elusen leol yn gweithio yn y gymuned yng Ngwynedd a Môn i gefnogi pobl hyn, eu teuluoedd a gofalwyr.
01286 677 711 Gwefan
Ability Net
Cefnogaeth Ddigidol
Mae AbilityNet yn cefnogi unrhyw un sy'n byw gydag anabledd neu anhawster i ddefnyddio technoleg i gyflawni eu hamcanion adref, yn y gwaith, ac o fewn addysg.
0800 048 7642 Gwefan
Mind Ynys Môn a Gwynedd
Cyngor a Gwybodaeth
Rydym yn darparu gwybodaeth a gwasanaethau ynghylch iechyd a lles meddwl i drigolion Ynys Môn a Gwynedd yng Ngogledd Cymru. Rydym wedi ein lleoli yng Nghaernarfon ond rydym hefyd yn rhedeg gwasanaeth Allgymorth Gwledig ( Rural Outreach) i wasanaethu'r gymuned ehangach. info@monagwyneddmind.co.uk
01286 685279 Gwefan
Coed Lleol
Iechyd a Lles
Coed Lleol (Small Woods Wales) yw'r enw am y Gymdeithas Goed Leol yng Nghymru. Rydym yn anelu i wella'r iechyd a lles o bobl ar draws Cymru drwy weithgareddau yn y coed a natur. Swyddog Cefnogi Rhaglen Ynys Môn yw Vivienne Plank. actifwoodsanglesey@smallwoods.org.uk
07932 924652 Gwefan
Cynllun Tro Da Seiriol
Hwb Cymunedol
Mae Cynghrair Seiriol yn elusen gofrestredig, sy'n cefnogi unigolion, teuluoedd, cymunedau a sefydliadau o fewn Ward Seiriol. Y mae'n cefnogi'r cymunedau o Fiwmares, Llanddona, Llandegfan, Llanfaes, Llangoed, Llansadwrn, Penmon a'r ardaloedd cyfagos.
01248 305014 Gwefan
Canolfan Dementia Gogledd Cymru
(English) Dementia Centre
(English) The new North Wales Dementia Centre opened in Colwyn Bay in July. We offer advice, information and practical support to people with dementia, and to their families. Please give us a ring to chat to someone at the Centre about the services we offer, or to book an appointment. The Centre is at the Quinton Hazel, Enterprise Parc, Glan y Wern Road, Mochdre, Colwyn Bay LL28 5BS.
01492 542212 Gwefan Ebost
Linc Cymunedol Môn (Medrwn Môn)
Prescreibio Cymdeithasol
Mae Linc Cymunedol Môn yn rhedeg gwasanaeth Prescreibio Cymdeithasol ar gyfer pobl dros 18 oed sy’n byw ar Ynys Môn.
01248 725 745 Gwefan
Grŵp Cymunedol Caru Amlwch
Hwb Cymunedol
Grŵp ddi-elw sydd wedi ei greu er mwyn cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i’n tref ac ardaloedd o gwmpas Amlwch.

Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ynys Môn
Tai
Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ynys Môn. tenantiaid@ynysmon.gov.uk
01248 752200 Gwefan
Canolfan Gymunedol Gwelfor
Canolfan Gymunedol
Mae Canolfan Gymunedol Gwelfor yn ganolfan hapus, prysur a chyfeillgar yng nghalon cymuned Caergybi.
01407 763559 Gwefan
Hwb Menter, M-Sparc
Cefnogaeth Busnes
Mae'r Hwb Menter yma i'ch helpu chi i gychwyn eich busnes. Rydym yn creu cymuned, gallwn ddarparu lle i chi weithio ohono, a gallwn roi cefnogaeth, i unrhyw fusnes mewn unrhyw sector.
01248 858 070 Gwefan
Cyngor Ynni – Cyngor ar Bopeth
Cyngor a Gwybodaeth
Mae gan Canolfan Cynghori Ynys Môn weithwyr achos ynni arbenigol sy'n gallu darparu cyngor a gwybodaeth ar; Cymharu a Newid Cyflenwyr Gwneud cais am gynlluniau disgownt ynni Grantiau Effeithlonrwydd Ynni Cartref Cwynion a Thrafodaethau gyda Cyflenwyr Cysylltwch a ni a gofynnwch i gael eich cyfeirio at ein tim ynni (Llun-Gwener 9:30yb - 4yp).
01407 762278 Gwefan
Cymunedau Digidol Cymru
Cefnogaeth Ddigidol
Nod Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yw lleihau achosion o allgau digidol yn ein gwlad. Hoffem weld Cymru yn wlad lle mae gan bawb y cymhelliant, y sgiliau a’r cyfle i ddefnyddio technoleg ddigidol yn hyderus.
0300 111 5050 Gwefan
Cyngor ar Bopeth Ynys Môn
Cyngor a Gwybodaeth
Rydyn ni’n darparu cyngor cyfrinachol, diduedd am ddim, ac yn ymgyrchu ar faterion o bwys sy’n effeithio ar fywydau pobl. Ein nod yw helpu pawb i ddod o hyd i ffordd ymlaen, beth bynnag yw’r problemau sydd o'u blaenau. Rydyn ni'n rhwydwaith annibynnol ac yn rhan o rwydwaith Cyngor ar Bopeth ledled Cymru a Lloegr.
08082787932 Gwefan
Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr
Gofal
Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr ydym ni. Os ydych chi’n oedolyn sy’n ofalydd di-dâl yng Ngogledd Cymru, medrwn ni eich helpu a’ch cefnogi. Rydym yn elusen gofrestredig ac rydym yn darparu cymorth yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn.
01248 370 797 Gwefan
Cynllun Tro Da Benllech a’r Cylch
Hwb Cymunedol
Cynllun Tro Da Benllech a’r Cylch yn helpu pobl leol ym Menllech, Moelfre, Marian-glas, Brynteg, Llanbedrgoch, Traeth Coch a Phentraeth, sydd oherwydd salwch neu anallu, angen help llaw i wneud tasgau dyddiol.
07918 993408 Gwefan
Gwasanaeth Llyfrgelloedd Môn
Llyfrgell
Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cyngor Sir Ynys Môn. Mae llyfrgelloedd Ynys Môn wedi i'w leoli yn Llangefni, Caergybi, Amlwch, Benllech, Porthaethwy, Biwmares a Rhosneigr.
01248 752095 Gwefan
Bancbwyd Ynys Môn
Bancbwyd
Mae Bancbwyd Ynys Môn yn cynnig darpariaeth bwyd mewn argyfwng i rheiny mewn angen, yn aml oherwydd amgylchiadau annisgwyl.
07557 333 498 Gwefan
Ffermwyr Ifanc Môn
Ieuenctid
Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (Ynys Môn) yn fudiad gwirfoddol i ieuenctid Cymru sy’n gweithredu yn ddwyieithog ledled y wlad. Rydym yn fudiad ieuenctid gwledig dwyieithog dynamig a hygyrch sy’n helpu ac yn cynorthwyo pobl ifanc i fod yn ffermwyr llwyddiannus, unigolion hyderus, cyfranwyr effeithiol a dinasyddion cyfrifol. ynys.mon@yfc-wales.org.uk
Gwefan