Mae’r sesiwn yma ar agor i unrhyw ofalwyr ymuno a ni am baned a sgwrs.
Mae Carers Wales, Carers Scotland a Carers Northern Ireland wedi dod ynghyd i gyflwyno ein ail sesiwn Gwledydd Celtaidd ‘Care for a Cuppa’ yn ystod Wythnos Gofalwyr 2021. Fel rhan o ddathliad Wythnos Gofalwyr, rydym yn gwahodd gofalwyr i ddod a dewis o grefft gyda chi, pe bai hynny’n gwau, crochet, peintio, cwiltio, neu greu cardiau.
Ymunwch a’r staff dros y tair gwlad a gofalwyr o bob un o’r gwledydd am baned, sgwrs, ac o bosib dysgu rhywbeth newydd.
Mae’r sesiwn hwn ar agor am ddwy awr rhwng 10am a 12pm. Mae croeso i chi ymuno am ran o’r sesiwn neu’r sesiwn i gyd.
Fel gofalwr, mae’n bwysig i gymryd said a threulio rhywfaint o amser yn siarad gyda phobl sy’n deall beth ydych yn mynd drwyddo. Gall y cyfarfodydd yma eich galluogi i gysylltu â gofalwyr eraill.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud a’u rôl fel gofalwr, yna dewch draw i weld sut gallwn fod o help.
Dilynwch y linc isod i gofrestru i fynychu’r sesiwn, a fydd yn digwydd yn rhithiol dros Zoom. Bydd linc i ymuno wedyn yn cael ei ddanfon atoch dros e-bost.