Gall sawl un feddwl bod y Sied Dynion ond ar gyfer dynion sydd wedi ymddeol ac sy’n mwynhau DIY. Well, tydi o ddim! Mae pawb yn gwbl gyfartal ac rydym yn enwedig yn gofalu am aelodau sydd angen ychydig o help.
Mae yno ochr gymdeithasol i Sied Dynion Seiriol. Mae gennym Ddominos, Dartiau, Cardiau, Scrabble ac wrth gwrs te, coffi a sgwrs a thaith fach allan pob hyn a hyn. Nid yw’r grwp ar gyfer dynion wedi ymddeol yn unig ychwaith; gall dynion o unrhyw oed sy’n mwynhau cwmni ac sydd gyda rhywfaint o amser ar eu dwylo ddod draw, yn enwedig os ydynt yn gwybod sut i ddefnyddio cyfrifiadur!
Yn Sied Dynion Seiriol rydym yn gweithio’n galed ar hyn o bryd i gael popeth yn ei le i wneud y gofod yn addas ar gyfer rheiny sy’n defnyddio cadair olwyn a dynion gyda phroblemau eraill. Mae gennym ni nawr gweithdy twt llawn offer, ac mae ein ffocws wedi symud i ganolbwyntio ar beintio a sortio ystafell ble all y dynion ymlacio a sgwrsio mewn seddi cyfforddus.
Bydd yno ystafell arall ar gyfer prosiectau celf a chrefft, arlunio, creu modeli, crochenwaith, ac unrhyw beth arall sy’n cymryd ffansi’r aelodau.
Mae’r Sied Dynion yn cael ei berchen a’i arwain gan ei aelodau, ac fe ddywedwn mai’r brif eitem o bwysigrwydd yw’r tegell! Rydym yn ymgeisio i fod yn hunangynhaliol, ond yn derbyn cefnogaeth gan grantiau’n achlysurol.
Rydym yn cwrdd pob Dydd Iau rhwng 10am a 12pm ac yn aml ar ddyddiau eraill drwy drefniant. Dewch draw i’m gweld, neu ffoniwch Mike Thomas ar 07941 103386.
Cyfarwyddiadau o sut i ddod o hyd i ni o gyfeiriad Biwmares:
- Ewch drwy Langoed, heibio McColl’s ar y dde, ac i lawr yr allt
- Ewch dros y bont fach ar y gwaelod ac i fyny’r allt am tua 200 llath
- Trowch i’r dde tuag at arwydd Gerddi Haulfre ac i mewn i faes parcio cartref gofal Haulfre
- Cerddwch i lawr tuag at y gerddi
- Mae ein gweithdy ar y chwith