Hwb Gymunedol Iorwerth Arms

Amdanom ni

Ty tafarn Gymreig lleol - yn cael ei chynnal gan y gymuned ar gyfer y gymuned.

Mae'r Iorwerth Arms yn dafarn gymunedol a redir gan y gymuned pan achubwyd rhag cau a’i dymchwel yn 2015. Mae bellach yn dafarn lwyddiannus nid-am-elw a redir gan gyfarwyddwyr di-dâl fel canolfan gymunedol ar gyfer ardal Bryngwran. Ers dod yn dafarn sy'n eiddo i'r gymuned – y busnes adwerthu olaf yn y pentref – mae'r Iorwerth Arms wedi ennill nifer o wobrau (rownd derfynol Gwobr dechrau busnes Cymru 2016 ac enillydd tafarn wledig orau Cymru a Phrydain, gwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad 2019).

Hysbysfwrdd

Dydd Iau, Ebrill 28, 2022

Teitl Hysbys

Te Prynhawn dydd Gwener yma, 29 Ebrill rhwng 2pm a 4pm. Croeso cynnes i bawb.

Dydd Iau, Ebrill 28, 2022

Newyddion Cyffrous

Yn mis Mai bydd Cynllun Tro Da Bryngwran yn derbyn cerbyd trydan 7 sedd drwy gytundeb a phartneriaeth a Medrwn Mon a fydd wedi ei leoli yn Hwb Cymunedol yr Iorwerth Arms. Bydd manylion am ei ddefnydd a sut i’w logi yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol agos, ond estyniad ar ethos ac egwyddorion y Cynllun Tro Da fydd hwn – ar gyfer cynorthwyo a gwella ansawdd bywyd pobl hyn, bregus, gyda anableddau a dan anfantais yn ein cymuned a chymunedau cyfagos sydd a hwbiau cymunedol a Chynlluniau Tro Da cydnabyddedig. Gwyliwch allan am fwy o fanylion.

Hwb Gymunedol Iorwerth Arms
Ymunodd Ebr 04, 2021

Gwefan
Cyfeiriad
Iorwerth Arms, Bryngwran, Ynys Mon. LL65 3PP
Ffôn
07821483154

Oes gennych chi unrhyw sgiliau neu
weithgareddau yr hoffech chi eu rhannu?

Cysylltwch â ni gyda'ch syniadau

Partneriaid Prosiect

Hawlfraint © 2026, Cyngor Sir Ynys Môn
Gwefan gan Brandified

×