Bydd y cwrs yn archwilio dulliau o gyflwyno gwybodaeth gan ddefnyddio cymwysiadau Office 356 fel Microsoft Powerpoint, Microsoft Word, Taenlenni a’r Cyfryngau Cymdeithasol.
Bydd cyfle i ddysgu sut i: –
- Ddefnyddio testun, delweddau, sain a fideo i gyflwyno gwybodaeth i gynulleidfa.
- Defnyddio technegau golygu a fformatio i wella’r wybodaeth rydych yn ei gyflwyno
Wrth gwblhau’r cwrs yma, byddwch yn derbyn Cymhwyster Mynediad 3 Awyr Agored mewn TGCh.
Wythnos 1 o gwrs 7 wythnos. Dydd Iau 10:00 – 13:00
Cwrs ar-lein dan arweiniad tiwtor yw hwn, wedi’i ariannu’n llawn gan Addysg Oedolion Cymru.