Ymunwch a ni yn Carers Wales am ein sesiwn Bingo misol gyda gwobrau o daleb Amazon £5 am linell, a £20 am ‘Full House’. Mae yno ddwy gêm am y cyfle i ennill.
Mae hwn yn ddigwyddiad 1 awr o hyd. 9pm – 10pm.
Beth yw ‘Amser i Mi’?
Mae ‘Amser i Mi’ yn gyfle i wneud rhywbeth ar gyfer mwynhad eich hunain. Mae’r sesiynau ar lein yma, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yng ngofod ble allwch chi gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau na fyddwch yn gallu eu gwneud yn arferol, a dod o hyd i gyfleoedd newydd. Byddwn yn gwneud popeth o sesiynau grŵp yn ymweld â rhyfeddodau’r byd yn rhithiol, i ymarfer corff, ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar.
Mae’r sesiynau yma amdanoch chi a’ch lles. Dewch draw i gael rhywfaint o hwyl, cael saib o’ch rwtin dyddiol, a rhannu profiadau gwahanol tra yng nghwmni gofalwyr eraill.
Dilynwch y linc isod i gofrestru i fynychu’r sesiwn, a fydd yn digwydd yn rhithiol ar Zoom. Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn linc dros e-bost i fynychu’r digwyddiad.