Digwyddiadau Byw

Amser i Mi – Awr Nadoligaidd gyda Welsh National Opera

Sesiwn Iaith Saesneg

Dewch draw i ganu a sgwrsio gydag Opera Cenedlaethol Cymru, ble byddwch yn cwrdd â chantorion opera proffesiynol o Gorws WNO a chlywed nhw’n canu rhywfaint o ganeuon Nadolig yn fyw dros Zoom. Byddwn hefyd yn trafod yr effaith gall cerddoriaeth cael ar ein hiechyd a lles, arddangos rywfaint o dechnegau anadlu ymlacio a byddwn yn gorffen ar nodyn uchel gyda chyfle i bawb canu ar y cyd i ganeuon Nadoligaidd.

Bydd y sesiwn yma yn awr o hyd.

BETH YW AMSER I MI/ ME TIME?

Mae ‘Amser i Mi’ yn gyfle i wneud rhywbeth i chi allu ei fwynhau. Mae’r sesiynau ar lein yn le i chi allu cymryd rhan mewn amrediad o weithgareddau na fyddwch yn gallu gwneud yn arferol ac archwilio cyfleoedd newydd. Byddwn yn gwneud pob math o bethau o ymweld â gwyrthiau’r byd i ymarfer corff i ymlacio a meddylgarwch a llawer mwy.

Mae’r sesiynau oll amdanoch chi a’ch lles.

Dewch draw am rywfaint o hwyl, i gymryd saib o’ch trefn ddyddiol ac i rannu gwahanol brofiadau tra yng nghwmni gofalwyr eraill.

Gyda diddordeb ond yw’r sesiwn yma ddim at eich dant chi? Cymerwch olwg ar beth arall sy’n digwydd dros yr wythnosau a misoedd nesaf a dysgu mwy am brosiect Me Time yma: https://www.carersuk.org/wales/help-and-advice/me-time


 Cliciwch yma i wylio

Mwy o Ddigwyddiadau Byw...

Oes gennych chi unrhyw sgiliau neu
weithgareddau yr hoffech chi eu rhannu?

Cysylltwch â ni gyda'ch syniadau
  Adborth

Partneriaid Prosiect

Hawlfraint © 2026, Cyngor Sir Ynys Môn
Gwefan gan Brandified

×