
Sesiwn Iaith Saesneg
Ymunwch a ni ar gyfer rhywfaint o gemau parti ar Noson Calan.
Byddwn yn chwarae fersiwn o’r gem Boggle, a gallwch hefyd arddangos eich sgiliau artistig gyda fersiwn o’r gêm Pictionary ac ymuno gyda ni am gêm blyffio.
Bydd y sesiwn ymlaen am 2 awr.
Beth yw Amser i Mi/ Me Time?
Mae ‘Amser i Mi’ yn gyfle i wneud rhywbeth i chi allu ei fwynhau. Mae’r sesiynau ar lein yn le i chi allu cymryd rhan mewn amrediad o weithgareddau na fyddwch yn gallu gwneud yn arferol ac archwilio cyfleoedd newydd. Byddwn yn gwneud pob math o bethau o ymweld â gwyrthiau’r byd i ymarfer corff i ymlacio a meddylgarwch a llawer mwy.
Mae’r sesiynau oll amdanoch chi a’ch lles.
Dewch draw am rywfaint o hwyl, i gymryd saib o’ch trefn ddyddiol ac i rannu gwahanol brofiadau tra yng nghwmni gofalwyr eraill.
Gyda diddordeb ond yw’r sesiwn yma ddim at eich dant chi? Cymerwch olwg ar beth arall sy’n digwydd dros yr wythnosau a misoedd nesaf a dysgu mwy am brosiect Me Time yma: https://www.carersuk.org/wales/help-and-advice/me-time