Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain. Fe’ch cyflwynir i Iaith Arwyddion Prydain trwy ddysgu’r wyddor a defnyddio’r llythrennau hynny i ffurfio geiriau. Byddwch yn nodi ac yn defnyddio arwyddion i gyfleu gwybodaeth bersonol ac er mwyn cyfarch pobl ac ymateb i’r cyfarchion hynny.
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster Mynediad Lefel 3 i chi. Nid oes angen profiad blaenorol ar gyfer y cwrs hwn ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Cwrs ar-lein dan arweiniad tiwtor yw hwn, wedi’i ariannu’n llawn.
Cwrs 8 wythnos, yn cychwyn ar 04/08/21 o 09:30 i 11:30am.
Dilynwch y linc isod am wybodaeth bellach ac i gofrestru eich diddordeb mewn mynychu’r digwyddiad hwn.