Digwyddiadau Byw

Sesiwn Hyfforddiant Cymuned – Canolfan Biwmares

Gwahoddiad: Hyfforddiant Gwefan ‘Cymuned’

Hoffwn eich gwahodd i ymuno a ni yn Canolfan Biwmares ar Ddydd Llun yr 21ain o Chwefror rhwng 5 a 6pm am sesiwn hyfforddiant i wefan Cymuned.

Mae Cymuned yn wefan newydd a’n brosiect ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ynys Mon, Age Cymru Gwynedd a Môn, a Medrwn Môn, a’n blatfform ar-lein newydd i Hybiau a Grwpiau Cymunedol ar Ynys Môn.

Datblygir y wefan i roi un man cyfleus i Hybiau Cymunedol cael un man cyfleus i helpu eu cymuned leol dysgu am eu Digwyddiadau, Gweithgareddau, Newyddion a Chysylltiadau, yn ogystal â rhoi’r cyfle i gydweithio a chymryd rhan mewn gweithgareddau gan grwpiau eraill ledled yr Ynys.

Bydd yr hyfforddiant, sy’n cael ei arwain gan Sioned Young o Age Cymru Gwynedd a Mon, yn cyflwyno’r wefan a’n eich dangos chi sut i roi cynnwys eich grŵp lleol chi’n hawdd i’r wefan i bawb weld a mwynhau. Bydd hefyd le am gwestiynau, ac i ddysgu mwy am sut all Sioned helpu chi o fewn ei rôl ehangach fel Swyddog Cyswllt a Chefnogaeth Hybiau Cymunedol Ynys Mon.

Rydym yn mawr obeithio y byddwch yn gallu ymuno a ni, ag edrychwn ymlaen at rannu mwy am y platfform newydd cyffrous hwn.

Mwy o Ddigwyddiadau Byw...

Oes gennych chi unrhyw sgiliau neu
weithgareddau yr hoffech chi eu rhannu?

Cysylltwch â ni gyda'ch syniadau
  Adborth

Partneriaid Prosiect

Hawlfraint © 2026, Cyngor Sir Ynys Môn
Gwefan gan Brandified

×