Mae Gofalwyr Cymru yn falch iawn ac yn gyffrous i gyhoeddi ein diwrnod lles rhithwir arbennig ar – lein.
Hoffem wahodd gofalwyr di-dal i ymuno a ni i ddathlu’r gweithgareddau Ymwybodol yr ydym wedi’u cael ar ein sesiynau ‘Amser i Mi’ a rhannu’r profiad hwnnw a gofalwyr eraill yn yr un sefyllfa.
Rydym yn cynnal diwrnod llawn o weithgareddau i gefnogi ymwybyddiaeth ofaglar a lles gofalwyr di – dal ar 29ain Mehefin 2021. Mae pob sesiwn yn unigol a gallwch ymuno a chynifer neu gyn lleied ag yn dymunwch. Nid oes raid i chi ymrwymo i’r diwrnod cyfan.
- Bydd yr dirwnod yn edrych fel hyn:
- 10:00 – 11.20 – Dawns i Bawb
- 11:30 – 12.50 – Ioga Dru
- 14:30 – 15.50 – Salsa i ddechreuwyr
- 16:00 – 17.20 – Ioga Chwerthin i pawb
- 17:30 – 18.50 – Zwmba i ddechreuwyr
- 19:00 – 20.20 – Sesiwn Blasu Ioga Qi Gong
Mae ‘Amser i mi’ yn gyfle i ofalwyr di-dâl wneud rhywbeth er eu mwynhad eu hunain. Mae’r sesiynau ar-lein hyn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn fan lle gall gofalwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ac archwilio cyfleoedd newydd nad ydyn nhw yn gallu eu gwneud fel arfer o bosibl.
Byddwn yn gwneud pob math o bethau yn amrywio o wylio rhyfeddodau mawr y byd mewn grŵp, i gelfyddydau, cerddoriaeth, ymarfer corff, ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar a chymaint mwy.
Mae’n bosib cofrestru am docynnau drwy ddilyn y linc hon:
https://www.eventbrite.co.uk/e/carers-wales-wellbeing-day-tickets-148208961995
Neu am ragor o wybodaeth cysyllwtch a Rheolwr Polisi Gofalwyr Cymru, Beth Evans ar 02920 811 370 neu beth.evans@carerswales.org
