Lansio Grwpiau Newydd Cymraeg i Blant Ar-Lein

 

Mae Cymraeg i Blant Môn wedi cyhoeddi cyfres newydd o sesiynau Stori a Chan, sydd wedi cychwyn o Ebrill 2021 ymlaen.

Mae’r sesiynau yn addas ar gyfer plant i fyny at 2 oed, a’n addas i rheiny sydd yn ac sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg. O fewn y sesiynau bydd cyfle i ddysgu caneuon syml a chael hwyl gyda’n gilydd.

Mae’n bosib cofrestru drwy ddilyn y linc isod, neu sganio’r cod QR o fewn y llun.

Linc i gofrestru: https://bit.ly/2JUaXEn

Sylwadau gan rieni sydd wedi mynychu ein sesiynau ar-lein yn ystod y pandemig:
“We attended the stori a chân sessions in the library before lockdown and then continued with the online ones – my oldest child has learned so much Cymraeg through this from all of the songs that we learned and now she counts in Welsh first”
“Mae’r sesiynau yn wych – ma fy mab yn edrych ymlaen atynt bob wythnos ac mae’n hyfryd gweld y mwynhad ar ei wyneb”

 

Oes gennych chi unrhyw sgiliau neu
weithgareddau yr hoffech chi eu rhannu?

Cysylltwch â ni gyda'ch syniadau
  Adborth

Partneriaid Prosiect

Hawlfraint © 2026, Cyngor Sir Ynys Môn
Gwefan gan Brandified

×