Yn mis Mai bydd Cynllun Tro Da Bryngwran yn derbyn cerbyd trydan 7 sedd drwy gytundeb a phartneriaeth a Medrwn Mon a fydd wedi ei leoli yn Hwb Cymunedol yr Iorwerth Arms. Bydd manylion am ei ddefnydd a sut i’w logi yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol agos, ond estyniad ar ethos ac egwyddorion y Cynllun Tro Da fydd hwn – ar gyfer cynorthwyo a gwella ansawdd bywyd pobl hyn, bregus, gyda anableddau a dan anfantais yn ein cymuned a chymunedau cyfagos sydd a hwbiau cymunedol a Chynlluniau Tro Da cydnabyddedig. Gwyliwch allan am fwy o fanylion.