Yn dod i ganolfan yn eich ardal chi, cerddorion ifanc gwych Sinfonia Cymru fydd yn perfformio 20 o gyngherddau led led Cymru ym mis Mai. Mae’r mwyafrif o berfformiadau mewn neuaddau bychain yng nghalon y gymuned. Mae pob perfformiad tua 50 munud o hyd, gydag amrywiaeth o gerddoriaeth, rhywbeth i bawb – nid dim ond ar gyfer y rhai sy’n caru cerddoriaeth glasurol! Gallwch ddisgwyl cyngerdd ymlaciol, anffurfiol, addas i bob oedran a chyfle i sgwrsio gyda’r cerddorion ar y diwedd. Gorau oll – am ddim! Ond byddwch angen tocyn, felly sicrhewch eich bod yn arwyddo lan ac yn trefnu tocyn ymlaen llaw i gadw eich sedd.
28 Mai, 14:00
Iorwerth Arms, 48 High St, Bryngwran, Holyhead LL65 3PP, UK
Am Ddim ond angen tocyn.