Digwyddiadau Byw

Caffi Cofio Llanddona

Mae grŵp Caffi Cofio yn cwrdd yn Neuadd Bentref Llanddona ar y Dydd Mercher cyntaf a thrydydd y mis, rhwng 2pm a 4.00pm.

 

Mae hwn yn wasanaeth am ddim am y tro, ac ar gael i unrhyw un yn yr ardal sy’n teimlo’n ynysig, neu i unrhyw un sydd angen cefnogaeth. Mae o’n grŵp cyfeillgar a chroesawgar, ble gall bawb cael sgwrs dda dros baned.

Gall trafnidiaeth i’r grŵp ac adref cael ei drefnu drwy Cynllun Tro Da Seiriol am ffi fechan.

Mae’r Caffi Cofio newydd gychwyn, ond wedi derbyn presenoldeb da. Roedd y sesiwn cyntaf yn gyfle i ddod i nabod ein gilydd, ac fe gawsom sesiwn Ioga Cadair wedi hynny, a oedd yn braf iawn.

Bydd pob wythnos ychydig yn wahanol, gyda barddoniaeth a cherddoriaeth er enghraifft, a byddwn yn cael ein arwain gan geisiadau’r aelodau.

Os hoffech ddod draw, ffoniwch 012492 542212

Mwy o Ddigwyddiadau Byw...

Oes gennych chi unrhyw sgiliau neu
weithgareddau yr hoffech chi eu rhannu?

Cysylltwch â ni gyda'ch syniadau
  Adborth

Partneriaid Prosiect

Hawlfraint © 2026, Cyngor Sir Ynys Môn
Gwefan gan Brandified

×