Dewch â’ch dychymyg, beiro a phapur!
Byddwn yn archwilio hunaniaeth trwy fytholeg ac ysgrifau eraill yn y cyfres o weithdai. Trwy gyflwyno myth Pandora gyda chyfeiriadau at fytholeg Geltaidd, byddwn yn ystyried ysgrifennu sy’n gysylltiedig â thema hunaniaeth a lle ac yn ymateb mewn cyfres o weithgareddau ysgrifennu cryno.
Ffocws ar Jamaica.
Bydd y gweithdai ysgrifennu yn annog dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng Cymru a’r Caribî a’n hanesion cyffredin o wladychu a gormes. Mae’r tiwtor wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr proffesiynol ar straen cymunedol yn Jamaica ac yng Ngogledd Orllewin Cymru, ac rydym wedi dechrau defnyddio barddoniaeth ac ysgrifennu sy’n galluogi pobl i ddod o hyd i ffyrdd diogel o drafod y tensiynau a’r atgofion. Yn yr achos hwn, trwy ddod â nhw i’r cyd-destun o gam-drin awdurdodol sy’n gysylltiedig â’r Fasnach Gaethweision, gan fod y cysylltiad hanesyddol rhwng Gogledd Orllewin Cymru a Jamaica yn arbennig o gryf.
Wythnos 1 o gwrs 6 wythnos. Dydd Llun 14:00 – 16:00.
Cwrs dwyieithog ar-lein dan arweiniad tiwtor yw hwn.
Dilynwch y linc isod am wybodaeth bellach ac i gofrestru eich diddordeb mewn mynychu’r digwyddiad hwn.