Bydd y sesiwn hon yn edrych ar apiau ac offer digidol amrywiol i helpu i gynnal iechyd a lles. Mae’r sesiwn yn seiliedig ar 5 ffordd at les y GIG a ddefnyddiwn fel ysbrydoliaeth ar gyfer ein pynciau. Rydym yn darparu trosolwg o opsiynau ar gyfer:
- Cadw mewn cysylltiad a syniadau ar gyfer gweithgareddau grŵp ar-lein.
- Bod yn egnïol a chael eich diddanu.
- Apiau sy’n ein hysgogi i fod yn actif ac ystyried ein hiechyd corfforol a diet.
- Apiau sy’n canolbwyntio ar ein hiechyd meddwl a’n lles.
- Cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd ar-lein.
Beth yw ‘Amser Fi’/ Me Time?
Mae ‘Me Time’ yn gyfle i wneud rhywbeth er eich mwynhad eich hun. Mae’r sesiynau ar-lein hyn yn fan lle gallwch chi gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau efallai na fyddwch chi’n gallu eu gwneud fel arfer ac archwilio cyfleoedd newydd. Byddwn yn gwneud pob math o bethau yn amrywio o weld grŵp o ryfeddodau mawr y byd i ymarfer corff i ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar a llawer mwy.
Mae’r sesiynau hyn i gyd amdanoch chi a’ch lles.
Dewch draw i gael ychydig o hwyl, cymerwch seibiant o’ch trefn ddyddiol a rhannu gwahanol brofiadau tra yng nghwmni gofalwyr eraill.
Diddordeb ond nid yw’r sesiwn hon ar eich cyfer chi? Dewch i weld beth arall sy’n digwydd dros yr wythnos a’r misoedd nesaf a mwy am y prosiect ‘Me Time’: https://www.carersuk.org/wales/help-and-advice/me-time