Fel sawl sefydliad arall, cawson ein taro’n galed gan y pandemig.
Ar hyn o bryd, dim ond chwe aelod o’r Sied Dynion sydd yno. Rhai blynyddoedd yn ôl ni oeddem yn adnabod ein gilydd, a naw rydym yn ffrindiau o fewn mudiad cymunedol gyda photensial gwych. I fanteisio ar y potensial hwb, mae gwir angen mwy o aelodau arnom ni.
Beth yda ni’n gwneud?
Rydym yn dod at ein gilydd ar Fore Dydd Iau; a’r peth cyntaf yw pob tro i gael paned, sy’n mynd i lawr yn dda gyda bisgedi a sgwrs, a chwpl o jôcs. Nid oes terfyn amser; a gall dartiau neu ddominos ddilyn, neu ella fydd angen gwaith ar adeilad model, hadau i’w plannu, neu botiau i’w osod.
Rydym yn ceisio gwneud pethau sy’n buddio’r gymuned, fel sicrhau bod cwch y Girl Guides lleol yn iawn i fynd i’r dŵr, neu weithio ar hysbysfwrdd Neuadd Bentref Llangoed, ac mi ryda ni hefyd yn gwneud ambell i joban i wneud arian er mwyn cadw ni i fynd.
Mae hwn yn Sied i Ddynion. Y mae wedi’i ymlacio, a’n cael ei berchnogi a’i redeg gan ei aelodau. Tyda ni ddim pob tro yn cyfyngu ein cyfarfodydd i Ddydd Iau, ond dyna’r diwrnod ble gallwn gyflwyno aelodau newydd i’r grŵp. Mae yno wiriadau a gofyn am ymddygiad parchus i sicrhau fod pawb yn hapus.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno, neu eisiau gwybod mwy, dewch draw i’m gweld ni ar Ddydd Iau rhwng 10am a 12pm neu rhowch alwad i Mike Thomas ar 07941 103386.
I ddod o hyd i ni, dyma gyfarwyddiadau o Fiwmares:
- Ewch trwy Langoed, heibio McColls ar y chwith a lawr yr allt
- Ewch dros y bont fach ar y gwaelod a pharhewch i fyny’r allt am tua 200 llath
- Trowch i’r chwith yn Gerddi Haulfre i mewn i faes parcio’r cartref preswyl
- Cerddwch i lawr tuag at y gerddi
- Mae ein gweithdy ni ar y dde
P.S. Dynion yn unig! … A pharciwch yn rhesymol yn dda.
