Gweithgareddau

Arferion Ymwybyddiaeth Ofalgar i Ofalwyr

Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar 1: Anadlu Dyfnach

Yn y fideo ymarfer rhagarweiniol hwn, mae Mike yn cyflwyno’r cysyniad o ‘dri anadl ddwfn’ – rhywbeth y gallwch chi ei wneud i’ch helpu chi i ymlacio mewn cyfnod byr o amser. Gallwch hyd yn oed ymarfer y dechneg anadlu hon wrth aros i’r tegell ferwi. Nesaf, mae Mike yn esbonio sut i ddyfnhau’r arfer hwn mewn un munud yn unig.

Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar 2: Anadl Dau Munud

Yn yr arfer hwn, bydd Mike yn dangos sut y gall techneg gyfrif eich helpu chi i roi sylw i sut rydych chi’n teimlo. Mae’r arfer hwn yn para am ddau funud. Rhowch gynnig arni a gweld sut y gall dau funud o anadlu’n ofalus wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar 3: Anadl Tri Munud

Yn y fideo hwn, mae Mike yn dangos sut y gall ymarfer anadlu tair munud fod yn sylfaen ar gyfer ymarfer hirach dros amser. Y nod yw dangos i chi sut y gallwch chi addasu ymarfer ystyriol i weddu i’ch anghenion a’ch amserlen.

Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar 4: Mantras

Yn y fideo hwn, mae Mike yn dangos sut y gall techneg ymwybyddiaeth ofalgar sy’n defnyddio mantras eich helpu os ydych chi’n teimlo dan straen ac wedi’ch gorlethu. Yn syml, mae mantra yn ymadrodd rydych chi’n ei ailadrodd drosodd a throsodd i chi’ch hun a gall eich helpu chi i ganolbwyntio’ch meddwl.

Oes gennych chi unrhyw sgiliau neu
weithgareddau yr hoffech chi eu rhannu?

Cysylltwch â ni gyda'ch syniadau
  Adborth

Partneriaid Prosiect

Hawlfraint © 2025, Cyngor Sir Ynys Môn
Gwefan gan Brandified

×