Yn Cymunedau Digidol Cymru, rydym yn cynnig cymorth a hyfforddiant i unigolion sy’n dymuno cefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas i wneud tasgau ar-lein syml. Mae hyn yn gallu gwneud byd o wahaniaeth ac ysgafnhau eu diwrnod. Mae nifer o aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru sy’n berchen ar ddyfeisiau digidol ond sydd angen cymorth neu arweiniad ar sut i wneud y gorau o fod ar-lein. Cyn y cyfyngiadau symud, mae’n bosibl y byddai aelod o’r teulu, ffrind neu wirfoddolwr wedi cynnig cymorth un-i-un i’r unigolion yma. Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol, cyfyngir ar y graddau y gallwn gefnogi eraill.
Rydym ni yn Cymunedau Digidol Cymru yn cynnig hyfforddiant i’r rhai a allai fod â diddordeb mewn cefnogi unigolion ar eu taith ddigidol a chael y gorau o fod ar-lein. Yn y weminar am ddim yma sy’n para awr, rydym yn trafod y manteision a’r rhwystrau wrth helpu rhywun i fynd ar-lein; yn amlinellu’r sgiliau hanfodol, yr ystyriaethau angenrheidiol wrth weithio o bell ac yn cynnig opsiynau ar gyfer dysgu a chymorth pellach wrth i chi arwain rhywun ar hyd eu taith ddigidol.
Cofrestwch yma i dderbyn linc i’r recordiad i’ch ebost.