Iorwerth Arms ar Restr Fer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru!

 

Mae’r dafarn gymunedol Iorwerth Arms, Bryngwran wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Effaith ar y Gymuned yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2021.

Bydd y gwobrau yn digwydd ar lein ar y 5ed o Hydref 2021, gyda chategorïau eraill yn cynnwys Menter Gymdeithasol y Flwyddyn, Y Fenter i’w Gwylio, Technoleg er Budd, Tîm Menter Gymdeithasol y Flwyddyn, a Phrynu’n Gymdeithasol.

Mewn ymateb i’r newydd o’u llwyddiant i gyrraedd y rownd derfynol, dywedai’r Iorwerth Arms:

“Diolch i’n cyfarwyddwyr, rheolwyr, staff, cwsmeriaid a gwirfoddolwyr y Cynllun Tro Da am sicrhau ein bod drwodd i rownd derfynol y gwobrau yma. Eich tafarn a hwb gymunedol chi yda ni a chi sy’n gyfrifol am unrhyw lwyddiant ddaw ein ffordd. Diolch o galon am eich cefnogaeth barhaus.”

 

Oes gennych chi unrhyw sgiliau neu
weithgareddau yr hoffech chi eu rhannu?

Cysylltwch â ni gyda'ch syniadau
  Adborth

Partneriaid Prosiect

Hawlfraint © 2026, Cyngor Sir Ynys Môn
Gwefan gan Brandified

×