Lansio Cynllun Tro Da Ynys Cybi & Y Fali

 

Ar y 1af o Orffennaf 2021 cafodd ‘Cynllun Tro Da Ynys Cybi a’r Fali’ ei lansio yng Nghanolfan Gymunedol Gwelfor, Caergybi.

Beth rydym ni’n wneud:

Bydd y Cynllun Tro Da yn cynnig helpu unrhyw berson sy’n byw yn yr ardal sydd, oherwydd salwch, analluogrwydd neu angen arall, angen help llaw i gyflawni tasgau bob dydd.

Mae enghreifftiau yn cynnwys: Trafnidiaeth i apwyntiadau meddygol, siopa, casglu presgripsiynau, ymweliadau cymdeithasol a chwmnïaeth, gofalu am anifeiliaid anwes, ymweliadau llyfrgell, a mwy!

Sut i gael cymorth:

Os ydych angen ein cymorth gallwch gysylltu â ni mewn amrywiaeth o ffyrdd (gweler isod). Bydd ein trinwyr galwadau yn cael sgwrs gyda chi i ddarganfod sut y gallwn eich helpu a chael eich cofrestru ar ein cynllun.

Pwysig, mae angen cofrestru ar y cynllun cyn y gallwch dderbyn cymorth penodol gennym.

Sut i gymryd rhan:

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno yn y cynllun fel gwirfoddolwr, gallwch gysylltu â ni drwy’r wybodaeth gyswllt isod. Trefnir cyfarfod i gwrdd â’r cydlynydd gwirfoddoli. Fel gwirfoddolwr nid oes unrhyw isafswm neu uchafswm i’r ymrwymiad amser. Gwerthfawrogir pob cymorth yn fawr gennym ni a’ch cymuned leol a gall hefyd roi hwb i’ch iechyd a’ch lles eich hun

Manylion Cyswllt:

Ffon: 01407 763559

Ffon Symudol: 07526 499170 / 07526 499179

Post: Gwelfor Community Centre, Ffordd Tudor, Holyhead, Anglesey, LL65 2DH

E-bost: veronica@morlo.co.uk

Facebook: Ynys Cybi & Valley Good Turn

Oes gennych chi unrhyw sgiliau neu
weithgareddau yr hoffech chi eu rhannu?

Cysylltwch â ni gyda'ch syniadau
  Adborth

Partneriaid Prosiect

Hawlfraint © 2026, Cyngor Sir Ynys Môn
Gwefan gan Brandified

×